2014 Rhif 566 (Cy. 67)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (“y cyd-bwyllgor”) gan gynnwys ei weithdrefnau a’i drefniadau gweinyddol. Mae Cyfarwyddydau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014 a wnaed ar 10 Mawrth 2014 yn darparu y bydd y saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn gweithio ar y cyd i arfer swyddogaethau sy’n ymwneud â chynllunio a sicrhau gwasanaethau ambiwlans brys ac at ddiben arfer y swyddogaethau hynny ar y cyd, bydd y Byrddau Iechyd Lleol yn sefydlu’r cyd-bwyllgor.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer—

(a)     cyfansoddiad ac aelodaeth y cyd-bwyllgor (rheoliad 3);

(b)     penodi cadeirydd ac is-gadeirydd i’r cyd-bwyllgor (rheoliad 4);

(c)     y gofynion cymhwystra i aelodau o’r cyd-bwyllgor (rheoliad 5 ac Atodlen 2); a

(d)     deiliadaeth swydd, terfynu penodiad ac atal aelodau o’r cyd-bwyllgor dros dro (rheoliadau 6 i 9).

Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â chyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor gan gynnwys pwerau’r is-gadeirydd (rheoliadau 10 ac 11).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeilio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


2014 Rhif 566 (Cy. 67)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014

Gwnaed                               10 Mawrth 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       11 Mawrth 2014

Yn dod i rym                             1 Ebrill 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 11, 12(3), (13)(2)(c) a 4(c) a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([1]) a pharagraff 4 o Atodlen 2 iddi yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1

Cyflwyniad

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2014.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o’r cyd-bwyllgor fel y nodir yn rheoliad 3;

ystyr “aelod cyswllt” (“associate member”) yw person sy’n dal unrhyw swydd a nodir yn unol â rheoliad 3(3);

 

ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11(2) o’r Ddeddf([2]);

ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol” (“host Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf;

ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, y Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, grŵp comisiynu clinigol, Awdurdod Iechyd Arbennig, Awdurdod Iechyd Strategol, Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol;

ystyr “y cyd-bwyllgor” (“the joint committee”) yw’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys a sefydlwyd yn unol â Chyfarwyddydau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014 a wnaed ar 10 Mawrth 2014;

ystyr “cynrychiolydd enwebedig” (“nominated representative”) yw swyddog-aelod a enwebwyd gan  brif swyddog pob un o’r Byrddau Iechyd Lleol. Ystyr swyddog-aelod yn y cyd-destun hwn yw unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009([3]);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “prif swyddogion” (“chief officers”) yw prif swyddog pob Bwrdd Iechyd Lleol; ac

ystyr “swyddog-aelod” (“officer member”) yw aelod o’r cyd-bwyllgor sy’n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(2).

RHAN 2

Aelodaeth o’r cyd-bwyllgor

Aelodaeth o’r cyd-bwyllgor

3.(1) Mae aelodau o’r cyd-bwyllgor yn cynnwys

(a)     y prif swyddogion neu gynrychiolwyr enwebedig;

(b)     cadeirydd; ac

(c)     y swyddog-aelod a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol.

(2) Y swyddog-aelod at ddibenion rheoliad 3(1)(c) yw’r person a gyflogir i ymgymryd â swyddogaethau’r Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans yn unol â chyfarwyddyd 3 o Gyfarwyddydau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014([4]).

(3) Yn ychwanegol, bydd tri aelod cyswllt, sef prif weithredwyr Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

(4) Pan fo prif swyddog yn bwriadu enwebu cynrychiolydd at ddibenion rheoliad 3(1)(a), rhaid i’r enwebiad fod yn ysgrifenedig ac wedi ei gyfeirio at gadeirydd y cyd-bwyllgor, a rhaid iddo bennu pa un a yw’r enwebiad am gyfnod penodol ai peidio.

Penodi’r cadeirydd a’r is-gadeirydd

4.(1) Penodir y cadeirydd gan Weinidogion Cymru.

(2) .Rhaid i’r cyd-bwyllgor benodi is-gadeirydd i’r cyd-bwyllgor o blith y prif swyddogion neu  gynrychiolwyr enwebedig.

(3) Bydd y penodiadau a wneir yn unol â pharagraff (1) yn cael eu gwneud yn unol â’r darpariaethau yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

(4) Pan fo’r cyd-bwyllgor yn penodi’r is-gadeirydd yn unol â pharagraff (2) bydd y penodiad yn ddarostyngedig i reolau sefydlog sy’n ymwneud â’r cyd-bwyllgor.

(5) Pan fo cadeirydd yn cael ei benodi yn unol â pharagraff (1), rhaid rhoi sylw i’r angen i annog amrywiaeth yn yr ystod o bersonau y caniateir eu penodi.

Y gofynion cymhwystra i aelodau’r cyd-bwyllgor

5.(1) Cyn y caniateir i unrhyw berson gael ei benodi’n gadeirydd y cyd-bwyllgor, rhaid iddo fodloni’r gofynion perthnasol o ran cymhwystra yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn a rhaid iddo barhau i fodloni’r gofynion perthnasol tra bo’n dal y swydd honno.

(2) Ni chaiff swyddog-aelod ond dal swydd ar y cyd-bwyllgor ar yr amod ei fod yn parhau i arfer swyddogaethau’r Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans.

(3) Ni fydd unrhyw berson a benodir yn unol â rheoliad 4(2) i fod yn is-gadeirydd neu sy’n aelod cyswllt neu’n brif swyddog y cyd-bwyllgor ond yn dal swydd ar y cyd-bwyllgor ar yr amod ei fod yn parhau i ddal swydd, fel y bo’n briodol, fel prif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu brif swyddog Bwrdd Iechyd Lleol.

(4) Ni chaiff cynrychiolydd enwebedig prif swyddog ond dal swydd ar y cyd-bwyllgor ar yr amod ei fod yn parhau i ddal ei swydd fel swyddog-aelod o Fwrdd Iechyd Lleol y prif swyddog, fel y nodir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009.

Deiliadaeth swydd cadeirydd 

6.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn gadeirydd y cyd-bwyllgor.

(2) Yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn, mae cadeirydd yn dal ac yn gadael y swydd yn unol â thelerau penodiad y person hwnnw.

(3) Caniateir i gadeirydd gael ei benodi am gyfnod nad yw’n hwy na phedair blynedd.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caniateir i gadeirydd, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi yn unol â rheoliad 4(1).

(5) Ni chaiff person ddal swydd fel cadeirydd y cyd-bwyllgor am gyfnod cyfan o fwy nag wyth mlynedd.

Deiliadaeth swydd is-gadeirydd 

7.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn is-gadeirydd y cyd-bwyllgor.

(2) Caniateir i is-gadeirydd gael ei benodi am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd.

(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 5(3) a pharagraff (4) caniateir i is-gadeirydd, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi yn unol â rheoliad 4(2).

(4) Ni chaiff person ddal swydd fel is-gadeirydd y cyd-bwyllgor am gyfnod cyfan o fwy na phedair blynedd.

(5) Mae’r cyfeiriadau at ddeiliadaeth swydd yr is-gadeirydd yn gyfeiriadau at ei benodiad yn is-gadeirydd ac nid at ei ddeiliadaeth swydd fel aelod o’r cyd-bwyllgor.

Terfynu penodiad cadeirydd

8.(1) Caiff Gweinidogion Cymru symud cadeirydd o’i swydd yn ddi-oed os byddant yn penderfynu—

(a)     nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru; neu

(b)     nad yw’n ffafriol i reoli da ar y cyd-bwyllgor,

i’r cadeirydd hwnnw barhau i ddal ei swydd.

(2) Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod cadeirydd a benodwyd wedi dod yn anghymwys o dan Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o’i swydd.

(3) Rhaid i gadeirydd a benodwyd hysbysu’r cyd-bwyllgor a Gweinidogion Cymru yn ddi-oed os yw’r cadeirydd hwnnw yn dod yn anghymwys o dan Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

(4) Os yw cadeirydd a benodwyd wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod y cyd-bwyllgor am gyfnod o chwe mis neu ragor, caiff Gweiniodgion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o’i swydd oni bai eu bod wedi eu bodloni —

(a)     bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a

(b)     y bydd y cadeirydd yn gallu bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod sy’n rhesymol ym marn Gweinidogion Cymru.

(5) Caiff cadeirydd ymddiswyddo o’i swydd ar unrhyw adeg drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru a phob Bwrdd Iechyd Lleol ond yn ddarostyngedig i delerau penodiad y cadeirydd hwnnw.

Atal cadeirydd dros dro

9.(1) Cyn gwneud penderfyniad i symud cadeirydd o’i swydd o dan reoliad 8, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro ddeiliadaeth swydd y cadeirydd hwnnw am unrhyw gyfnod sy’n rhesymol yn eu barn hwy.

(2) Pan fo cadeirydd wedi ei atal dros dro yn unol â pharagraff (1), bydd Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r cadeirydd hwnnw a phob Bwrdd Iechyd Lleol yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.

(3) Ni chaiff cadeirydd y mae ei benodiad wedi ei atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau’r cadeirydd.

RHAN 3

Cyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor

Cyfarfodydd a thrafodion

10.(1) Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol gytuno ar reolau sefydlog i reoleiddio cyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor.

(2) Rhaid i gyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor gael eu cynnal yn unol â’r rheolau sefydlog sy’n ymwneud â’r cyd-bwyllgor.

(3) Ni chaiff aelodau cyswllt bleidleisio mewn unrhyw gyfarfodydd neu drafodion y cyd-bwyllgor.

Pwerau’r is-gadeirydd

11. Pan fo cadeirydd y cyd-bwyllgor—

(a)     wedi marw;

(b)     wedi peidio â dal ei swydd; neu

(c)     yn analluog i gyflawni dyletswyddau’r cadeirydd oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw achos arall,

bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu hyd nes bod y cadeirydd presennol yn ailafael yn nyletswyddau’r cadeirydd, yn ôl y digwydd.

 

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

 

10 Mawrth 2014

 

             

 


ATODLEN 1

Y GWEITHDREFNAU AR GYFER PENODI CADEIRYDD

Rheoliad 4(1) a  4(3)

 

1. Mae’r Atodlen hon yn gymwys i benodi cadeirydd y cyd-bwyllgor.

2. Bydd Gweinidogion Cymru yn sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle ar gyfer penodi’r cadeirydd a bod y trefniadau hynny yn ystyried—

(a)     yr egwyddorion a osodir o bryd i’w gilydd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus;

(b)     ei bod yn ofynnol i’r penodiad fod yn agored a thryloyw;

(c)     ei bod yn ofynnol i’r penodiad gael ei wneud drwy gystadleuaeth deg ac agored; a

(d)     yr angen i sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn bodloni’r gofynion cymhwystra perthnasol a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

ATODLEN 2

Y GOFYNION CYMHWYSTRA

Rheoliad 5(1)

Y gofynion cymhwystra i gadeirydd

Gofynion cyffredinol

1.(1) Mae’r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â chymhwystra i benodi cadeirydd y cyd-bwyllgor.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5), (6) ac (8), nid yw person yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd os yw—

(a)     yn ystod y pum mlynedd blaenorol wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw drosedd ac wedi cael dedfryd o garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio) am gyfnod nad yw’n llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy;

(b)     yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim neu wedi gwneud compownd neu drefniant â chredydwyr;

(c)     wedi ei ddiswyddo, ac eithrio am fod y swydd wedi ei dileu, o unrhyw gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd;

(d)     ei aelodaeth fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr o gorff gwasanaeth iechyd, ac eithrio grŵp comisiynu clinigol, wedi ei therfynu am reswm ac eithrio am fod y swydd wedi ei dileu, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu’r corff gwasanaeth iechyd, neu am fod cyfnod y swydd y penodwyd y person amdano wedi dod i ben; neu

(e)     wedi ei symud o’i swydd fel cadeirydd neu aelod o gorff llywodraethu grŵp comisiynu clinigol.

(3)  At ddibenion paragraff (2)(a), bernir mai’r dyddiad collfarnu yw’r dyddiad y mae’r cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais mewn cysylltiad â’r gollfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o’r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu’r cais, neu’r dyddiad y rhoddir y gorau i’r apêl neu’r cais, neu’r dyddiad y mae’r apêl yn methu am na chafodd ei dwyn yn ei blaen neu’r dyddiad y mae’r cais yn methu am na chafodd ei ddwyn yn ei flaen.

(4) At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw person i’w drin fel un sydd wedi cael ei gyflogi am dâl a hynny ddim ond am ei fod wedi dal swydd aelod, aelod cyswllt neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd ac eithrio grŵp comisiynu clinigol, neu fel un sydd wedi dal swydd cadeirydd neu aelod o gorff llywodraethu grŵp comisiynu clinigol.

(5) Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)( b)—

(a)     os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai’r person fod wedi cael ei ddyfarnu’n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu’n llawn, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n swyddog-aelod ar ddyddiad y diddymiad;

(b)     os caiff person ei ryddhau o fethdaliad, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod ar ddyddiad y rhyddhau;

(c)     os telir dyledion y person yn llawn, ac yntau wedi gwneud compownd neu drefniant gyda’i gredydwyr, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n swyddog-aelod ar y dyddiad y talwyd y dyledion hynny’n llawn; a

(d)     ar ôl gwneud compownd neu drefniant gyda’i gredydwyr, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n swyddog-aelod pan ddaw pum mlynedd i ben o’r dyddiad y cyflawnwyd telerau gweithred y compownd neu’r trefniant.

(6)  Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(c), caiff y person hwnnw, pan ddaw dwy flynedd i ben o ddyddiad y diswyddiad, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu’r anghymhwystra, a chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod yr anghymhwystra yn dod i ben.

(7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais i ddileu anghymhwystra, ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn pen dwy flynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cais ac mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais wedyn.

(8) Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(d), daw’r person hwnnw yn gymwys i’w benodi’n gadeirydd pan ddaw dwy flynedd i ben o ddyddiad terfynu’r aelodaeth neu unrhyw gyfnod hwy a bennwyd gan y corff a derfynodd yr aelodaeth, ond caiff Gweinidogion Cymru, pan wneir cais iddynt yn ysgrifenedig gan y person hwnnw, leihau cyfnod yr anghymhwystra.


 



([1])           2006 p.42.

([2])           Sefydlwyd Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys o dan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148 (Cy.18)). Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda o dan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/778 (Cy.66)) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/2918 (Cy.286)).

([3])           O.S. 2009/779 (Cy.67).

([4])            2014 (Rhif [     ]  ).